Cludiant
Mae Mari yn creu pob darn i archeb felly cofiwch ystyried hyn wrth archebu. Dibynnu ar nifer o archebion, bydd Mari yn anelu i gwblhau’r archeb o fewn pythefnos. Gadewch neges wrth archebu os rydych angen y gemwaith erbyn dyddiad penodol ac fe gwneith ei gorau i gael yn barod mewn pryd. Mae croeso i chi gysylltu drwy e-bost – post@marieluned.co.uk neu ffonio 01650 531 662 i weld beth sy’n bosibl.
Os ydych yn anfon y gemwaith fel anrheg yn syth i’r person sy’n derbyn y gemwaith, gadewch i Mari wybod ac fe wneith lapio’r anrheg gan gynnwys neges fach bersonol.
Mae pob darn o emwaith yn cael ei gyflwyno mewn bocs deniadol ynghyd â manylion am y darn.
Mae postio yn costio £4.95 am ddosbarth cyntaf
Mae postio i wledydd tramor yn costio £8.50 ac fel arfer yn cyrraedd o fewn pythefnos.
Mae modd casglu’r archeb o weithdy Mari yn Mallwyd os chi’n byw yn lleol neu yn pasio ar yr A470.