Cefndir Mari
Magwyd Mari ar fferm Tyddyn Du, Cwm Hafod Oer ar gyrion Dolgellau. Yn fuan iawn gwelwyd bod ganddi ddawn greadigol naturiol.
Datblygodd y ddawn hon yn ystod ei haddysg hyd nes iddi raddio o Brifysgol Loughborough gyda Gradd Dosbarth Cyntaf fel Gemweithydd.
Dychwelodd i’w bro i sefydlu busnes o’i chartref ym Mallwyd ac ers hynny mae ‘Mari Eluned’ wedi mynd o nerth i nerth. Mae gemwaith Mari wedi denu sylw o bell ac agos; cwsmeriaid sy’n ymhyfrydu o gael ‘darn bach o Gymru’ i’w wisgo a’i drysori yn ogystal â phobl sy’n gwerthfawrogi cynlluniau gwreiddiol.
Mae Mari yn ymfalchïo yn safon ei chrefftwaith a gwreiddioldeb y darnau, mae’r casgliad yn cynyddu a datblygu’n barhaol.
Enillydd gwobr Blas a Dawn Gwynedd 2009 – ‘Crefftwr / Arlunydd Ifanc y Flwyddyn’
BA Anrhydedd (Dosbarth Cyntaf) Gemweithydd a Gof Arian
Prifysgol Loughborough 2003 - 2006
Cwrs Sylfaen Celf a Dylunio (Clod Uchel)
Coleg Menai, Bangor 2002 - 2003