|
CYNNYRCH - Ymweld
â’r Siop
Mari
sydd wedi creu yr holl eitemau a welir yma. Mae pob darn wedi ei
wneud yn ofalus â llaw gan roi gwedd unigryw i bob un. Defnyddir
Arian yn unig ar gyfer y darnau.
| Llechen |
Mae’r
llechen Gymreig yn fyd enwog oherwydd ei safon uchel ac yn
ddeunydd pwysig yn hanes a diwydiant y wlad. Yn ei ffurf naturiol
mae’n eithaf garw ond wrth ei gweithio mae’n trawsnewid
i fod yn llyfn ac esmwyth. Mae’r darnau gorffenedig
yn ysgafn a chywrain gyda lliw cyfoethog sy’n cyferbynnu’n
effeithiol gydag aur ac arian. |
Cerrig |
Mae’r cerrig yn werthfawr yn yr ystyr eu bod wedi eu
siapio yn naturiol i fod yn dalpiau llyfn bychain sy’n
fôr o liwiau cudd. Rwy’n dewis a dethol pob carreg
yn ofalus, yn eu drilio ac yn rhoi sglein arnynt gan eu cyfuno
gydag amrywiaeth o berlau dwr croyw a gleiniau. Mae’n
emwaith cyfforddus a thrawiadol ac mae olew naturiol y croen
yn ychwanegu sglein i’r cerrig wrth eu gwisgo.
|
Pren |
Rwy’n defnyddio derw, derw du hynafol yn ogystal â
choed eraill. Mae lliwiau hynod a graen arbennig y pren i’w
gweld yn y darnau gorffenedig. |
Oherwydd
natur y deunyddiau gall ymddangosiad y gemwaith amrywio ychydig
o'r enghreifftiau a welir yma. Byddaf hefyd, o bosib, yn gwneud
mân newidiadau i'r cynlluniau o dro i dro.
|
|
 |