Sylwadau
Llawer o ddiolch am ddanfon y gadwen i fy ffrind. Roedd hi wedi ei phlesio yn fawr iawn!
- Linda, Ynys Vancouver, September 2011
Annwyl Mari, dim ond gair bach i ddiolch yn fawr am y gadwen 'Botwm'. Dwi wedi gwirioni, mi fyddai'n ol yn fuan!
Wendy, Pwllheli, Awst 2011
Diolch yn fawr i ti Mari. Mae'r gadwen yn lyfli - dwi bron a'i chadw i fy hun!
- Mair, Porthmadog, Awst 2011
Helo Mari. Cyrhaeddodd y gadwenyn saff heddiw. Diolch o galon am dy brydlondeb. Ac ydi, mae hi'n plesio i'r dim! Llawe o ddiolch unwaith eto, tan y tro nesaf felly!
- Gwen, Parc, Gorffennaf 2011
Mae'r cadwynni i gyd yn edrych yn anhygoel. Mae nhw'n hollol berffaith ac yn union fel oedda ni wedi ei obeithio. Diolch eto am dy holl waith!
- Eurig a Bethan, Caerdydd, Gorffennaf 2011
Yr ordor wedi cyrraedd y swyddfa bore ma! Mae'r gwaith yn arbennig ac hyd yn oed yn well nac yn ymddangos ar y we... Dwi'n siwr bydd yr athrawon wrth eu boddau.
Dwi'n gwbod be fyddai yn gofyn i Santa am Nadolig yma hefyd wan!!!! Diolch yn ofnadwy.
- Mair, Dolgellau, Gorffennaf 2011
Mae'r pecyn wedi cyrraedd bore ma, a mae'r clustdlysau yn wych! Llawer o ddiolch i ti, mi fyddai'n neis cael mwclis i fatchio yn y dyfodol! Diolch eto.
- Lydia, Glaspwll, Mehefin 2011
Llawer o ddiolch, 'Falmai Fach' wedi cyrraedd ar amser ac mae hi wrth ei bodd gyda'r gadwen. Diolch eto.
- Bethan, Llannefydd, Mai 2011
Gair i ddiolch am y gadwen a dderbyniais ddoe. Mae yn hyfryd a'r patrwm yn andros o ddel. Mae hefyd mor braf ar y gwddw. Diolch i ti.
- Bethan, Rhydymain, Mai 2011
Gwelais y raglen ar s4c neithiwr ac ar ol gweld y gemwaith roedd rhaid i fi archebu rhywbeth ar gyfer penblwydd fy nwraig!
- Matthew, Tonypandy, Mawrth 2011
Neges fach i ddweud bod y gadwyn nes i archebu wythnos diwethaf wedi cyrraedd bore 'ma a mae'n hyfryd! Rwy'n disgwyl 'mlaen i'w gwisgo hi! Diolch yn fawr iawn! :)
- Nia, Llanelli, Mawrth 2011
Helo Mari, Diolch yn fawr iawn am y gadwen 'BLAGUR' mae'n hyfryd, ac wedi cyraedd o fewn yr amser, gwych!
- Eurgain, Llannefydd, Chwefror 2011
Ma'r gadwen wedi cyrraedd! Ma hi'n fendigedig- yn gywrain, yn unigryw ac yn gymreig! Dwi'n gw'bod y bydd hi'n ffefryn efo fy ffrind yn sydyn iawn.
Diolch ofnadwy iti am y cynllunio manwl a dy amynedd!Gyda mawr ddiolch.
- Eirian, Ynys Mon, Chwefror 2011
Diolch o galon am ddanfon y gadwen erbyn heddiw 'ma. Wedi ei rhoi i'm ffrind noson yn gynnar ac mae wedi gwirioni!
- Catrin, Abertawe, Chwefror 2011
'Gair byr i ddweud fod y gadwen wedi cyraedd - mae'n hollol gorjys a dwi'n gwybod y bydd fy ffrind wrth ei bodd gyda hi! Can mil o ddiolch i ti am dy amser a dy amynedd wrth ei chynllunio'.
- Sharon, Llanybydder, Hydref 2010
‘Diolch yn fawr iawn am y gemwaith "Helena" dwi mor falch bod pobl y Llyfrgell Genedlaethol wedi cael darn o emwaith chi i fi fel anrheg gadael.’
- Helena, Aberystwyth, Medi 2009
‘Dim ond neges fach i ddweud diolch am yrru'r gadwyn allan i mi mor gyflym, Oddi'n lyfli ac roedd fy ffrind wrth ei bodd hefo hi!’
- Manon, Medi 2009
‘Dim ond gair bach o ddiolch am y freichled Angharad a'r gadwyn Rhiannon a gefais gan fy chwiorydd fel anrhegion penblwydd heddiw. Mae nhw'n ffantastic! Mi wnes i weld dy waith am y tro cyntaf yn Yr Eisteddfod yn Bala. Mae dy waith yn unigryw iawn. Pob lwc efo'r busnes.’
- Maria, Nasareth, Medi 2009
‘Diolch yn fawr iawn am y gadwyn! Oedd Mam wrth ei bodd efo hi - ac yn falch iawn o gael "darn arbennig o Gymru i fynd efo hi i Batagonia" fel ddudodd hi! :o) Gobeithio bo chdi'n cadw'n iawn, ac yn parhau i fod yn brysur efo'r gwaith.
- Eurig, Llanrug, Medi 2009
‘Mae dy sdwff yn boblogaidd iawn ac yr elfen bersonol o enwi darnau yn plesio yn fawr. Da iawn ti wir!’
- Rhiain, Awst 2009
‘Diolch yn fawr. Rwyf wedi derbyn y gadwen hyfryd. Anrheg arbennig i fy chwaer "Caryl" - fe fydd hi heb os yn bles iawn ac wrth ei bodd yn gwisgo'r gadwen! Diolch eto a pob llwyddiant i chi.’
- Al, Caerffili, Awst 2009
‘Wedi derbyn y gadwyn bore 'ma. Mae'n hyfryd. Mae'r llechen yn meddwl llawer am fod fy mamgu (nain) wedi cael ei geni yn Llechwedd Isa, Ffestiniog yn 1888, ond bu farw yn ifanc iawn.’
- Delyth, Gorffennaf 2009
‘Ges i calon fach gan fy chwaer 'dolig a wedi ei wisgo bron bob diwrnod ers hynny. Meddwl bysa'r calonau yn anrheg perffaith i'n ffrindiau, darn bach o Gymru iddyn nhw!’
- Gwenith, Penrhyndeudraeth, Mawrth 2009
‘Derbyniais gadwyn fel anrheg Nadolig ac yna set gadwyn a chlustdlysau ar fy mhenblwydd. Maent yn brydferth dros ben ac mae nifer o bobl wedi cymryd ffansi atynt ac yn gofyn o le maent yn dod. Mae ansawdd y gwaith yn wych hefyd. Pob hwyl i'r dyfodol.’
- Teleri, Sir Gâr, Mawrth 2009
‘Diolch o galon am y gemwaith, mae o'n berffaith!! Dwi'n siwr bydd fy ngwraig wedi dotio bora `Dolig. Unwaith eto diolch am dy help a mwynha'r Nadolig.’
- Guto, Abertawe, Rhagfyr 2008
‘Rwyf wedi darganfod dy waith ond yn ddiweddar. Llongyfarchiadau ar greu darnau gwych. Rwyf wedi prynu clustdlysau eisioes i ddanfon i Seland Newydd ac Awstralia fel anrhegion 'Dolig! Llawer o ddiolch.’
- Nia, Aberystwyth, Tachwedd 2008
‘Roedd yr anrheg yn plesio'n fawr ..... wrth ei bodd! Mae fy ngwraig yn hynod hoff o'r cynllun briallu ac yn crybwyll i mi brynu enghraifft arall o dy waith erbyn y Nadolig! Diolch o galon unwaith eto am dy help, ddim yn aml dwi'n llwyddo i daro deuddeg efo anrhegion ond mae'r gadwyn briallu wedi bod yn lwyddiant mawr! Hwyl am y tro’
- Huw, Llambed, Medi 2008
‘Dim ond nodyn i ddweud bod Del yn meddwl bod y freichled yn lyfli ac roedd yn edrych yn ffantastig gyda'r ffrog briodas. Diolch o galon i ti am dy holl waith’
- Siwan, Talybont, Medi 2008
‘Gair bach i ddweud mor hapus ydw i gyda'r gadwyn hyfryd o dy waith wnes i dderbyn fel anrheg gan fy mrawd. Mae'n wych, yn ysgafn, yn llyfn a ddim yn rhy fawr. Rwyt wedi ffurfio'r darn deri yn hyfryd, ac rwyf wrth fy modd ei fod yn ddarn o dderi o fy nghartref, syniad gwreiddiol iawn. Diolch o galon i ti. Pob hwyl a llwyddiant gyda'r gwaith i'r dyfodol.’
- Eirlys, Chwefror 2008
‘Dim ond gair bach i ddeud fy mod wedi prynu gennyt yn y sioe a fod pawb yn meddwl fod popeth yn ' gorgeous' Pob lwc’
– Rachel, Gorffennaf 2007
‘Diolch o galon am wneud y gadwen i mi, Mam yn deud bod hi’n ‘amazing’ Diolch eto a phob lwc hefo’r gwaith’
- Catrin, Bethesda, Mawrth 2007
‘Diolch o galon iti Mari am y gadwen, clustdlysau a'r freichled a wnest i mi yn ddiweddar - arbennig iawn. Mae'r amrywiaeth sydd gennyt yn wych - anodd iawn dewis! Dwi wrth fy modd yn gwisgo'r tlysau a mae nhw'n mynd efo sawl gwisg - gret! Pob hwyl efo'r busnes’
–Siwan, Llanuwchllyn, Mai 2007
‘Dim ond gair bach i ddiolch am wneud y gadwen ar gymaint o fyr rybydd. Mae Mam wrth ei bodd’
– Victoria, Caernarfon, Mawrth 2007
