Erthygl 'Y Wawr' - Hydref 2009
Merch y mynydd ydy Mari Eluned - cynnyrch cefn gwlad Meirionnydd. Dychwelodd i’w bro yn 2006 wedi graddio mewn gemwaith gyda Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Loughborough, cwrs sy’n enwog am ei safonau uchel. Roedd â’i bryd ar sefydlu busnes yn ei chynefin, uchelgais oedd yn plethu’n hapus gyda’i bwriad o briodi ei chariad Edward Ifan. Roedd Edward yntau’n fachgen fferm wedi’i fagu ar lethrau Cwm Cywarch, filltiroedd yn unig o Dyddyn Du, Cwm Hafod Oer, magwrfa Mari.
Stori dylwyth teg yn wir. Mor braf ydy cael eithriad i’r rheol sy’n mynnu fod gweld ieuenctid yn glynu at eu cynefin yn beth cymharol brin. Mae’r ddau bellach wedi cartrefu yn Ebrandy, Mallwyd ar y ffordd fawr rhwng Dinas Mawddwy a Mallwyd. Yno mewn tŷ hynafol lle y dywedir fod y porthmyn yn aros i fwydo’r anifeiliaid wrth ymlwybro o un pegwn o’r wlad i’r llall, cewch hyd i weithdy Mari Eluned y gemydd, ac oriel o dan yr unto i arddangos cynnyrch ei chrefft. Mae ôl llygaid craff yr artist i’w weld o’ch cwmpas ym mhobman - yn y dewis o foth olwyn trol sy’n cynnal y goleuadau, yr hen lif draws sy’n addurno’r distyn, y cadeiriau pren anarferol lle medrwch roi’ch clun i lawr wrth ddewis cynllun, y basgedi lliwgar sydd ganwaith mwy dengar na chwpwrdd ffeilio - mae’r cyfan yn cyfrannu at yr awyrgylch. Yn yr wythnosau gorwyllt sy’n wynebu Mari wrth iddi baratoi i fynd â stondin o’i chynnyrch i’r Sioe yn Llanelwedd, ac yna’n syth wedyn i’r Eisteddfod yn Y Bala, mae’r cyfan wedi’i orchuddio â llwch llechi, a Meric Mostyn y ci yn gadael ôl ei draed ynddo wrth fynnu sylw’i feistres.
Mae Mari’n prysur wneud enw iddi’i hun gyda’i defnydd o lechi Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, derw’r corsydd lleol, perlau dŵr afon a cherrig mân wedi’u cyfuno gydag aur ac arian i lunio gemwaith cywrain wedi’i wneud yn gyfan gwbl â llaw. Mae ei chyfuniad unigryw o ddefnyddiau wedi tynnu sylw at ei gwaith. Meddai Mari: “Roedd y syniad o ddefnyddio llechen wedi bod yng nghefn fy meddwl ers imi wneud Cwrs Sylfaen ym Mangor.” Daw ei hysbrydoliaeth o’r tirlun amaethyddol o’i chwmpas, gogoniannau natur a’i Chymreictod meddai hi. “Rwy’n byrlymu o syniadau newydd - weithiau, daw enw’r darn gyntaf, dro arall y cynllun ei hun sy’n arwain. Dyna ydy’r pleser mwyaf - cynllunio darn newydd i’w ychwanegu at y casgliad.”
Mae rhamant y creu yn cael ei adlewyrchu yn enwau rhai o’r darnau - Llwybr Defaid, Machlud, Caeau, Briallu, Cribin, Drws Stabl, Blagur; ar brydiau, mae’n galw’r darn wrth enw’r person sy’n mynd i’w dderbyn.
Erbyn hyn, mae ganddi wefan ddeniadol sy’n dangos amrywiaeth y casgliad (www.marieluned.co.uk) ac mae ei gemwaith yn cyrraedd pellafion byd drwy archeb a chomisiwn. Gall lunio darn unigryw i unrhyw un sy’n methu gweld rhywbeth at eu dant yn y casgliad, ac fe gaiff gomisiynau amrywiol o bell ac agos. Ei chariad cyntaf o ran deunydd ydy’r llechen laslwyd a grafwyd o grombil y ddaear yn y Blaenau. Drwy ei siapio a’i lyfnhau, ac yna’i gyfuno gydag aur ac arian, mae Mari’n creu cadwynau a chlustdlysau hardd sy’n apelio at y llygad a’r cyffyrddiad. Maen nhw’n gwerthu eu
hunain bron, gan fod cymaint o bobl yn holi o le cawsoch chi nhw. Gweld rhywun yn eu gwisgo ydy’r hysbyseb orau posib.
Heblaw am y wefan, gallwch weld gwaith Mari Eluned yn ei geinder yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Chwarel Llechwedd, yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, Plas Glyn-y-Weddw, Oriel Rhiannon yn Nhregaron, siopau Ria yn Y Bala, Eluned ym Mhwllheli, Elfair yn Rhuthun, a Cole & Cole yng Nghaerdydd a Biwmares, heb sôn am wefan ‘Adra’ - www.adrahome.com . Mae cyflenwi’r rhain i gyd, cynnal stondinau, a chreu i gomisiwn yn cadw Mari yn hynod brysur, yn arbennig o gwmpas y Nadolig ac yn ystod misoedd yr haf.
Er hynny, mae wrth ei bodd yn cael mynd allan i’r ffriddoedd a’r caeau i helpu ei gŵr, Ed, ar y fferm, gan ddweud gyda gwên “Mae o’n lwcus iawn ohona’i!” Mae’n cydnabod fod rhoi help llaw gyda’r defaid neu’r cynhaeaf yn rhoi newid iddi o’r gwaith cywrain sy’n mynd â’i hamser o ddydd i ddydd, ac yn rhoi cyfle i syniadau newydd gyniwair yr un pryd.
Fel un sy’n gwisgo’i gemwaith yn rheolaidd, gallaf dystio i’w lyfnder a’i geinder - mae’n teimlo’n braf, ac o’r herwydd daw’n un o’ch hoff dlysau mewn dim o dro. Does dim rhaid i’r dynion deimlo’n amddifad - mae Mari’n gwneud dolenni llewys o lechen, aur ac arian sy’n wahanol a deniadol iawn. Mae’r dynion yn fy mywyd i gyd yn eu gwisgo.
Mynnwch weld ei gwaith, a dewis o blith casgliad sy’n tyfu’n feunyddiol.
Mari Eluned, Ebrandy, Mallwyd, Machynlleth, Powys SY20 9AE 01650 531662 info@marieluned.co.uk
Rhiannon Gomer
