Siop ar agor!
Mae'r siop ar-lein newydd ar agor! Diolch i chi am eich amynedd tra'n aros am y siop ail agor dechrau'r flwyddyn. Mae gennai gynlluniau gwahanol iawn ar y gweill a chyn hir bydd y casgliad newydd i'w weld ar y wefan.
Daeth criw ffilmio S4C yma yn ddiweddar i ffilmio fi ar fy ngwaith yn y gweithdy. Byddaf yn ymddangos ar rhaglen 'Pethe' yn fuan ar ôl i'r gyfres newydd dechrau, adawai chi wybod pan gai'r dyddiad!
**** NOS FAWRTH 22ain o FAWRTH BYDDAI'N YMDDANGOS AR RHAGLEN 'PETHE' AR S4C AM 9.30 yh ***
Dyma'r linc i weld y rhaglen -
http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=496274916
Diolch, Mari
