|
Yn fy ngweithdy yn Mallwyd, Meirionnydd rwy’n creu gemwaith
unigryw allan o lechen, pren a cherrig gan eu cyfuno â metalau
gwerthfawr. Wrth weithio’r deunyddiau maent yn datgelu lliwiau
a phatrymau trawiadol a gorffeniad llyfn dymunol.
Daw
fy ysbrydoliaeth yn bennaf o’r amgylchfyd, byd natur a’r
tirwedd sydd o’m cwmpas. Rwy’n dylunio a chreu gemwaith
unigryw o safon uchel ar gyfer pob achlysur. Mae’r darnau
yn anghyffredin ac yn fodern tra’n ceisio glynu at wedd organig
y deunydd. Mae pob darn wedi ei greu â llaw gan ddefnyddio
ystod eang o dechnegau a berffeithiais tra’n dilyn un o’r
cyrsiau gradd mwyaf blaenllaw ym Mhrydain. Rwy’n ymfalchïo
yn safon y crefftwaith a gwreiddioldeb y darnau.
Mae
gennyf gasgliad gwreiddiol o gadwyni, breichledi a chlustdlysau
wedi eu llunio o ddeunyddiau Cymreig ac rwy’n siwr y gwelwch
rywbeth i’ch plesio. Fodd bynnag, os oes gennych gynllun eich
hunan neu angen steil neu liw penodol gallaf gynllunio a chreu darn
arbennig i chi.
Diolch
am eich diddordeb a mwynhewch y casgliad.

|