Chwilota Trwy'r Casgilad
Categoriau Gemwaith
Cliciwch ar y cylchoedd i ffeindio'ch ffordd drwy'r siop
Cadwyni
Darn bach o Gymru i'w wisgo a'i drysori.
Clustdlysau
Gemwaith wedi ei wneud o ddeunyddiau naturiol.
Breichledi
Darnau unigryw wedi eu gwneud â llaw.
Setiau
Cyflwynir pob darn mewn bocs deniadol.
Dynion
Cagliad o emwaith modern i ddynion.
Tocyn Anrheg
Methu dewis? Tocyn anrheg ar gael yma.
Siop Mari
Croeso i'r wefan newydd, mwynhewch y siopa!
Gemwaith Mari Eluned
***Dwi 'di cael babi yn ddiweddar. Byswn yn ddiolchgar i chi ystyried hyn wrth archebu. Byddaf yn parhau i weithio ryw gymaint ond bydd archebion yn cymryd ychydig yn hirach i'w gwneud a'u dosbarthu, croeso i chi gysylltu i weld beth sy'n bosib***
O’i gweithdy ym Mallwyd, Meirionnydd mae Mari Eluned wedi llwyddo i sefydlu busnes llwyddiannus o greu gemwaith unigryw gan ddefnyddio deunyddiau naturiol Cymreig. Mae ei dawn greadigol o drawsnewid llechen i ddarnau cywrain a thlws yn boblogaidd iawn ac mai bellach yn gwerthu ar hyd a lled Prydain yn ogystal ag i bellafion byd. Daw ei hysbrydoliaeth o’r tirlun amaethyddol, natur a’i Chymreictod. Mae Mari yn llunio pob darn â llaw i safon uchel, mae’r gemwaith yn apelio i’r llygad a’r cyffyrddiad sy’n gwneud ei chynlluniau yn bleser i’w gwisgo. Cynigir gwasanaeth proffesiynol a charedig ac mae Mari yn awyddus i drafod syniadau am ddarnau comisiwn.