|
SYLWADAU
‘Diolch
o galon am wneud y gadwen i mi, Mam yn deud bod hi’n ‘amazing’
Diolch eto a phob lwc hefo’r gwaith’
- Catrin, Bethesda, Mawrth 2007
‘Dim ond gair bach i ddiolch am wneud y gadwen ar gymaint
o fyr rybydd. Mae Mam wrth ei bodd’
– Victoria, Caernarfon, Mawrth 2007
‘Diolch
o galon iti Mari am y gadwen, clustdlysau a'r freichled a wnest
i mi yn ddiweddar - arbennig iawn. Mae'r amrywiaeth sydd gennyt
yn wych - anodd iawn dewis! Dwi wrth fy modd yn gwisgo'r tlysau
a mae nhw'n mynd efo sawl gwisg - gret! Pob hwyl efo'r busnes’
–Siwan, Llanuwchllyn, Mai 2007
‘Dim ond gair bach i ddeud fy mod wedi prynu gennyt yn y sioe
a fod pawb yn meddwl fod popeth yn ' gorgeous' Pob lwc’
– Rachel, Gorffennaf 2007
‘Gair bach i ddweud mor hapus ydw i gyda'r gadwyn hyfryd o
dy waith wnes i dderbyn fel anrheg gan fy mrawd. Mae'n wych, yn
ysgafn, yn llyfn a ddim yn rhy fawr. Rwyt wedi ffurfio'r darn deri
yn hyfryd, ac rwyf wrth fy modd ei fod yn ddarn o dderi o fy nghartref,
syniad gwreiddiol iawn. Diolch o galon i ti. Pob hwyl a llwyddiant
gyda'r gwaith i'r dyfodol.’
- Eirlys, Chwefror 2008
‘Dim ond nodyn i ddweud bod Del yn meddwl bod y freichled
yn lyfli ac roedd yn edrych yn ffantastig gyda'r ffrog briodas.
Diolch o galon i ti am dy holl waith’
- Siwan, Talybont, Medi 2008
‘Roedd yr anrheg yn plesio'n fawr ..... wrth ei bodd! Mae
Eleri yn hynod hoff o'r cynllun briallu ac yn crybwyll i mi brynu
enghraifft arall o dy waith erbyn y Nadolig! Diolch o galon unwaith
eto am dy help, ddim yn aml dwi'n llwyddo i daro deuddeg efo anrhegion
ond mae'r gadwyn briallu wedi bod yn lwyddiant mawr! Hwyl am y tro’
- Huw, Llambed, Medi 2008
‘Rwyf wedi darganfod dy waith ond yn ddiweddar. Llongyfarchiadau
ar greu darnau gwych. Rwyf wedi prynu clustdlysau eisioes i ddanfon
i Seland Newydd ac Awstralia fel anrhegion 'Dolig! Llawer o ddiolch.’
- Nia, Aberystwyth, Tachwedd 2008
‘Diolch o galon am y gemwaith, mae o'n berffaith!! Dwi'n siwr
bydd Sharon fy ngwraig wedi dotio bora `Dolig. Unwaith eto diolch
am dy help a mwynha'r Nadolig.’
- Guto, Abertawe, Rhagfyr 08
‘Derbyniais gadwyn fel anrheg Nadolig ac yna set gadwyn a
chlustdlysau ar fy
mhenblwydd. Maent yn brydferth dros ben ac mae nifer o bobl wedi
cymryd ffansi atynt ac yn gofyn o le maent yn dod. Mae ansawdd y
gwaith yn wych hefyd. Pob hwyl i'r dyfodol.’
- Teleri, Sir Gâr, Mawrth 2009
‘Ges i calon fach gan fy chwaer 'dolig a wedi ei wisgo bron
bob diwrnod ers hynny. Meddwl bysa'r calonau yn anrheg perffaith
i'n ffrindiau, darn bach o Gymru iddyn nhw!’
- Gwenith, Penrhyndeudraeth, Mawrth 2009
‘Diolch yn fawr iawn iawn i ti am yr holl waith ar y gemwaith
ar gyfer y briodas. Da ni wrth ein boddau gyda pob un darn –
yn enwedig y modrwya priodas!’
- Elain a Nick, Caerdydd, Mawrth 2009
‘Wedi derbyn y gadwyn bore 'ma. Mae'n hyfryd. Mae'r llechen
yn meddwl llawer am fod fy mamgu (nain) wedi cael ei geni yn Llechwedd
Isa, Ffestiniog yn 1888, ond bu farw yn ifanc iawn.’
- Delyth, Gorffennaf 2009
‘Diolch yn fawr. Rwyf wedi derbyn y gadwen hyfryd. Anrheg
arbennig i fy chwaer "Caryl" - fe fydd hi heb os yn bles
iawn ac wrth ei bodd yn gwisgo'r gadwen! Diolch eto a pob llwyddiant
i chi.’
- Al, Caerffili, Awst 2009
‘Mae dy sdwff yn boblogaidd iawn ac yr elfen bersonol o enwi
darnau yn plesio yn fawr. Da iawn ti wir!’
- Rhiain, Awst 2009
‘Diolch yn fawr iawn am y gadwyn! Oedd Mam wrth ei bodd efo
hi - ac yn falch iawn o gael "darn arbennig o Gymru i fynd
efo hi i Batagonia" fel ddudodd hi! :o)
Gobeithio bo chdi'n cadw'n iawn, ac yn parhau i fod yn brysur efo'r
gwaith.
- Eurig, Llanrug, Medi 2009
‘Dim ond gair bach o ddiolch am y freichled Angharad a'r gadwyn
Rhiannon a gefais gan fy chwiorydd fel anrhegion penblwydd heddiw.
Mae nhw'n ffantastic! Mi wnes i weld dy waith am y tro cyntaf yn
Yr Eisteddfod yn Bala. Mae dy waith yn unigryw iawn. Pob lwc efo'r
busnes.’
- Maria, Nasareth, Medi 2009
‘Dim ond neges fach i ddweud diolch am yrru'r gadwyn allan
i mi mor gyflym, Oddi'n lyfli ac roedd fy ffrind wrth ei bodd hefo
hi!’
- Manon, Medi 2009
‘Diolch yn fawr iawn am y gemwaith "Helena" dwi
mor falch bod pobl y
Llyfrgell Genedlaethol wedi cael darn o emwaith chi i fi fel anrheg
gadael.’
- Helena, Aberystwyth, Medi 2009
|